DATGANIAD I’R WASG

Cofnodwyd Ebrill 13, 2010 gan sardins_admin
Categorïau: Newyddion

Mae cymuned Treganna a Than-yr-Eos yn siomedig ac yn gynyddol rhwystredig gyda’r amser y mae’n ei gymryd i ddatrys problemau difrifol yno.

Erbyn hyn mae gan ysgolion Treganna a Than-yr-Eos dros 250 o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg ar ddau safle bychan ac annigonol sydd wedi’i gwahanu gan daith bws 15 munud o hyd ar draws Caerdydd.

Mae 50 o ddisgyblion yn cael eu dysgu mewn cabanau dros dro wedi’i lleoli ar faes chwarae ysgol arall, tra mae prif adeilad Ysgol Treganna – adeilad Fictorianaidd (gyda chynhwysedd swyddogol gan LLCC ar gyfer 165 disgybl) – bellach yn brwydro i sicrhau lle ar gyfer mwy na 200 o blant 4-11 oed.

Nid yw’r ddarpariaeth bresennol yn cynnwys cyfleusterau sylfaenol, gan gynnwys neuadd ysgol ble gall y plant fwyta eu cinio, gwneud ymarfer corff na’i caniatau i ymgynnull ynghyd fel cymuned ysgol gyfan.

Dywed Kathryn Walters, cadeirydd llywodraethwyr Treganna, “Mae tair blynedd bellach ers i Gyngor Caerdydd roi cynigion gerbron i fynd i’r afael ag adeiladau annigonol Treganna.

“Mae’r cynlluniau hynny bellach yn nwylo Llywodraeth Cynulliad Cymru – ac wedi bod ganddynt ers Gorffennaf 2009 erbyn hyn.”

Ychwanegodd Mrs Walters, sydd hefyd yn lywodraethwr yn Ysgol Tan-yr-Eos, ac yn riant i ddisgyblion sy’n mynychu’r ddwy safle, “Mae’r sefyllfa ansefydlog presennol yn achosi gofid i bawb ac yn gwneud cynllunio i’r dyfodol yn anodd tu hwnt.

“Daeth bellach yn amser gweithredu – mae’n gwbl amlwg nad yw ein sefyllfa bresennol yn gynaladwy.”

Anhawsterau ychwanegol sy’n wynebu Ysgol Treganna, oherwydd diffyg gofod, yw’r ffaith fod niferoedd cynyddol o frodyr a chwiorydd yn gorfod cael ei gwahanu a’i haddysgu filltiroedd oddi wrth ei gilydd, gyda sefyllfa o’r fath yn achosi heriau emosiynol ac ymarferol i deuluoedd.

Unwaith eto eleni mae nifer sylweddol o blant 4 oed sy’n byw o fewn dalgylch Ysgol Treganna – y lleiaf gan unrhyw ysgol yng Ngaerdydd – wedi bod yn aflwyddiannus wrth ymgeisio am lefydd yn eu hysgol gymunedol leol, oherwydd nad oes gofod digonol yno.

Press Statement

Cofnodwyd Mawrth 25, 2010 gan sardins_admin
Categorïau: News

The Treganna / Tan yr Eos community is both deeply disappointed and increasingly frustrated at the length of time it taking for its acute problems to be resolved.

Treganna / Tan yr Eos now has in excess of 250 pupils being taught across two tiny and inadequate sites separated by a 15 minute bus ride across Cardiff.

Fifty children are being taught in temporary portakabins in the yard of another school while Treganna’s main building – a Victorian infants block (official WAG capacity 165 children) – now struggles to accommodate more than 200 four – 11-year-olds.

Basic amenities, including a school hall in which the children should be able to eat their lunch, do PE and assemble together as a whole school community, are not within its current provision.

Kathryn Walters, chair of the governors of Treganna, said: “It was three years ago that Cardiff Council first put forward proposals to address Treganna’s inadequate buildings.

“Now the Council’s plan for Treganna is with the Welsh Assembly Government – where it has been since July 2009.”

Mrs Walters, who is also a governor of Tan yr Eos, and the parent of children attending both school sites, added: “This situation is very unsettling for all concerned and makes planning for the future increasingly difficult.

“It’s time for action now – we know that our current situation will very soon become untenable.”

Additional problems at Treganna include the fact that due to the lack of space within the school increasing numbers of siblings are having to be split up and educated miles apart from each other, with all the attendant emotional and logistical challenges such arrangements bring for their families.

And this coming September yet again a significant number of four-year-olds who live within the Treganna catchment area – the smallest of any school in Cardiff – have been unable to gain places at the school, their chosen local community school, because it does not have the room to take them.

Dewch i brotestio! – Protest 25 Mawrth

Cofnodwyd Mawrth 15, 2010 gan sardins_admin
Categorïau: Newyddion

English>>>

Mae angen cefnogaeth pawb ohonom ni ar Ysgol Gymraeg Treganna a Than-yr-Eos

Pryd? Dydd Iau, 25 Mawrth am 4 o’r gloch

Ble? Y tu allan i Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd

Sut i gyrraedd yno? Fe fydd bws yn gadael Ysgol Gymraeg Treganna am 3.30 y prynhawn i gludo pawb i’r bae ac yn dychwelyd erbyn 5.15 y prynhawn. Os hoffech ddod ar y bws gyda’ch plentyn/plant yna llenwch y ffurflen. Danfonwch y ffurflen i sardins@rocketmail.com os gwelwch yn dda. Bydd angen i’r plant fod yn eu gwisgoedd ysgol.

Pam? Bellach mae 60 wythnos ers cyhoeddi y cynlluniau i ad-drefnu ysgolion yn Nhreganna ac rydym yn dal i ddisgwyl penderfyniad gan Leighton Andrews (Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes). Yn y cyfamser mae’r staff a’r disgyblion yn parhau i weithio dan amodau dysgu annerbyniol. Mae Tan-yr-Eos yn llawn ac fe fydd rhai plant sy’n byw o fewn dalgylch Treganna eto eleni yn methu cael mynediad i’r ysgol. Y mae pob gohiriad yn arwain at fwy o galedi i’n plant ni.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y brotest yna croeso i chi gysylltu â Morgan Hopkins 07968 030102 neu Nia Williams 07790 016531.

Gyda diolch

Dychwelwch y ffurflen hon at naill ai eich cynrychiolydd dosbarth neu un o’r canlynol: Nia (Treganna – Branwen), Eira (Treganna – Culhwch), Morgan (Treganna – Mabon), Iwan (Tan-yr-Eos) ac Isabelle (Tan-yr-Eos).


Join the protest! – Protest 25 March

Cofnodwyd Mawrth 15, 2010 gan sardins_admin
Categorïau: News

Cymraeg>>>

Ysgol Gymraeg Treganna and Tan-yr-Eos need all our support

When? Thursday, 25th March at 4pm

Where? Outside the National Assembly for Wales, Cardiff Bay

How to get there? We have organised a bus leaving Ysgol Gymraeg Treganna at 3.30pm to take everyone down to the bay. The bus will return to the school by 5.15. If you would like to come with your child/children on the bus then please fill in the slip. Please send the form to sardins@rocketmail.com. The children will need to be in their school uniform.

Why? 60 weeks have now passed since the proposal to reorganise schools in Canton was published and we are still awaiting a decision by Leighton Andrews (Minister for Children, Education and Lifelong Learning). In the meantime the staff and pupils are still working in a school patently not fit for purpose. Tan-yr-Eos is full to capacity and Treganna is oversubscribed. This September some children within catchment will yet again be unable to gain a place at Ysgol Gymraeg Treganna. Each delay leads to further hardship for our children.

If you have any queries about the protest then please call Morgan Hopkins 07968 030102 or Nia Williams 07790 016531.

Gyda diolch

Please return this slip to either your class representative or one of the following Nia (Treganna  – Branwen), Eira (Treganna – Culhwch), Morgan (Treganna – Mabon), Iwan (Tan-yr-Eos) and Isabelle (Tan-yr-Eos).



Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn