Cyfarfod nesaf: Nos Fawrth, 15 Mehefin, am 8.00 o’r gloch – Duke of Clarence

Cyfarfod yn benodol i drafod protestiadau ar gyfer yr ymgyrch a chreu calendr o ddigwyddiadau

Mae dau ddyddiad wedi eu penodi yn barod:

  • 8 Gorffennaf: Cyhoeddi Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Stadiwm y Mileniwm.
  • Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy – wythnos gyntaf Awst – union ddyddiad i’w gadarnhau.

Mae’r ymgyrch wedi ei rannu i 4 grwp erbyn hyn:

  • Gweinyddu, cyfathrebu a’r we (Cyswllt: Eira Bowen)
  • Lobio (Cyswllt: Nia Bryon, Morgan Hopkins)
  • Protestio (Cyswllt: Iwan Jones)
  • Y Wasg (Cyswllt: Esyllt Lord)

Os ydych chi’n fodlon helpu gydag unrhyw un o’r grwpiau yma, e-bostiwch ni’n ol ac fe wnawn ni anfon eich manylion at y cyswllt.

Diolch am eich cefnogaeth.

Explore posts in the same categories: Newyddion

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.